Lleoliad: Ar-lein
Dyddiad: Dydd Mawrth, 2 Gorffennaf 2024
Amser:
09.02 -
09.27
------
|
Categori |
Enwau |
|
Aelodau’r Pwyllgor: |
Elin Jones AS, Llywydd (Cadeirydd) Heledd Fychan Jane Hutt AS Darren Millar AS |
|
Staff y Pwyllgor: |
Graeme Francis (Clerc) Yan Thomas (Dirprwy Glerc) |
|
Eraill yn bresennol |
David Rees AS, Y Dirprwy Lywydd Manon Antoniazzi, Prif Weithredwr a Chlerc y Senedd Siân Wilkins, Cyfarwyddwr Busnes y Senedd Dros Dro Bethan Davies, Pennaeth Gwasanaeth y Siambr a Phwyllgorau Julian Luke, Pennaeth Pwyllgorau Polisi a Deddfwriaeth Llinos Madeley, Clerc, Gweithdrefnau a Sgiliau Seneddol Helen Carey, Llywodraeth Cymru Adam Vaughan, Ail Glerc |
Croesawodd y Llywydd yr Aelodau i’r cyfarfod. Cafwyd ymddiheuriadau gan Jane Dodds.
Cytunwyd ar gofnodion y cyfarfod blaenorol i’w cyhoeddi.
Dydd Mawrth
Rhoddodd y Trefnydd wybod i’r Rheolwyr Busnes am y newid a ganlyn:
· Datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a'r Gymraeg: Tata Steel (45 munud)
· Cynhelir y Cyfnod Pleidleisio cyn trafodion Cyfnod 3.
· Nid yw'r Cyfarfod Llawn yn debygol o fynd y tu hwnt i 8.05pm
Dywedodd y Llywydd wrth y Rheolwyr Busnes y bydd toriad o 15 munud yn cael ei gymryd rhwng y Cyfnod Pleidleisio a thrafodion Cyfnod 3. Mae 53 o welliannau i’w gwaredu mewn 15 grŵp ac felly’r disgwyl yw y bydd Cyfnod 3 yn cymryd rhwng 2 a 3 awr.
At hynny, dywedodd y Llywydd wrth y Rheolwyr Busnes ei bod wedi cytuno i Julie James gael pleidlais drwy ddirprwy o’r wythnos hon tan 13 Awst. Jane Hutt fydd yn cynnal y bleidlais. Nododd y Llywydd, hefyd, fod trefniant pleidleisio drwy ddirprwy Jack Sargeant bellach wedi dod i ben.
Dydd Mercher
· Caiff y Cyfnod Pleidleisio ei gynnal ar ôl y ddadl fer.
· Nid yw'r Cyfarfod Llawn yn debygol o fynd y tu hwnt i 7.25pm
Rhoddodd y Trefnydd wybod i’r Rheolwyr Busnes am y newidiadau canlynol i amserlen Busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf:
Dydd Mercher 10 Gorffennaf 2024
· Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Dai, Llywodraeth Leol a Chynllunio (45 munud) – i’w hateb gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid, y Cyfansoddiad a Swyddfa’r Cabinet
Dydd Mawrth 16 Gorffennaf 2024
· Datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Ogledd Cymru a Thrafnidiaeth: Diweddariad ar drafnidiaeth (45 munud)
· Cynnig o dan Reol Sefydlog 12.24 i gynnal dadl ar yr eitemau canlynol gyda’i gilydd ond gyda phleidleisiau ar wahân (5 munud)
o Rheoliadau Llywodraethu Digidol (Cyrff Cymreig) (Cymru) 2024
o Rheoliadau Deddf Addysg Drydyddol ac Ymchwil (Cymru) 2022 (Diwygiadau Canlyniadol) 2024
Gofynnodd Heledd Fychan am eglurder ar destun y Datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Ogledd Cymru a Thrafnidiaeth: Diweddariad ar drafnidiaeth, i'w gynnal ar 16 Gorffennaf. Cytunodd y Trefnydd i ddarparu rhagor o wybodaeth i Reolwyr Busnes y tu allan i'r cyfarfod.
Cytunwyd ar yr ychwanegiadau a ganlyn i amserlen Busnes y Senedd ar gyfer y tair wythnos nesaf:
Dydd Mercher 18 Medi 2024 –
· Amser a neilltuwyd i’r Ceidwadwyr Cymreig (60 munud)
· Amser a neilltuwyd i Blaid Cymru (60 munud)
· Dadl fer (30 munud)
Nododd y Pwyllgor Busnes y llythyr.
Bu’r Pwyllgor Busnes yn ystyried ei ddull o weithio o ran cadeiryddion pwyllgor yn rhannu swydd, a chytunwyd ar gylch gorchwyl ac amserlen fesul cam ar gyfer y gwaith.
Byddai'r amserlen honno'n cynnwys ymarfer casglu tystiolaeth cyfyngedig wedi'i dargedu gyda Fforwm y Cadeiryddion a rhanddeiliaid allanol perthnasol, ar egwyddorion ac ymarferoldeb cadeiryddion pwyllgorau yn rhannu swydd, fel cam cyntaf y gwaith. Byddai’r ail gam yn cynnwys ymgynghori ag Aelodau, grwpiau gwleidyddol, y Bwrdd Taliadau Annibynnol, Comisiwn y Senedd a Fforwm y Cadeiryddion ar gynigion penodol yn nhymor yr hydref.
Bu’r Pwyllgor Busnes yn ystyried materion ac opsiynau yn ymwneud â chwmpas ei adolygiad gweithdrefnol arfaethedig mewn ymateb i ddiwygio’r Senedd. Cytunodd y Pwyllgor Busnes i gynnal adolygiad eang i gynnwys meysydd dewisol, yn ogystal â’r gofynion hanfodol a’r ymrwymiadau y mae wedi’u rhoi’n flaenorol, a dychwelyd i ystyried cynllun manwl ac amserlen ar gyfer yr adolygiad yn nhymor yr hydref.
Gofynnodd Heledd Fychan i’r cydbwysedd rhwng y rhywiau o ran aelodaeth y pwyllgorau gael ei ystyried fel rhan o’r gwaith, a nododd y Llywydd y byddai angen gwneud gwaith hefyd ar drefniadau pleidleisio yn ymwneud â Dirprwy Lywydd ychwanegol posibl.